Jenny Rathbone AS

Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

 

13 Ionawr 2023

 

 

 

 

 

Annwyl Jenny,

 

Diolch am eich llythyr, dyddiedig 13 Rhagfyr, ynghylch ymchwiliad sbotolau y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i brofiadau pobl ifanc sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu o fewn y system cyfiawnder troseddol.

 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn sgil bywyd hanfodol i bob plentyn a pherson ifanc, ac mae nodi anghenion ac ymyrryd yn gynnar i gefnogi unigolion ag anghenion penodol yn hollbwysig. Mae’r prif gyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith i blant a phobl ifanc yn nwylo'r gwasanaeth iechyd. Ym myd addysg, mae awdurdodau lleol ac ysgolion yn gyfrifol am ddarparu addysg addas i bob plentyn, gan gynnwys y rhai ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.  Mae gan nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru gytundebau lefel gwasanaeth gyda'u byrddau iechyd i ddarparu therapi lleferydd ac iaith mewn ysgolion.

 

Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer y dysgwyr ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a waharddwyd yn barhaol o ysgolion dros y 5 mlwyddyn academaidd diwethaf (yr unig flynyddoedd y mae data am anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar gael).

 

Blwyddyn

2016/17

2017/18

2018/19

2019/20

2020/21

Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol a oedd â datganiad anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu

6

9

10

8

Heb ei gyhoeddi

 

Nid yw’r data ar gyfer nifer y disgyblion ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a waharddwyd yn barhaol yn 2020/21 wedi’i gyhoeddi am fod llai na 5 disgybl yn y categori hwn, ac felly ein bod am ddiogelu cyfrinachedd y data personol a chyfyngu ar y posibilrwydd o ddatgelu gwybodaeth am unigolion.

 

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ymgymryd â gwaith helaeth i helpu pob plentyn i aros mewn addysg brif-ffrwd ac osgoi eu gwahardd. Mae hyn yn cynnwys y system ADY newydd, sy'n cael ei gweithredu’n raddol ar hyn o bryd. Ei nod yw gwella'r gwaith o gynllunio a chyflwyno darpariaeth ddysgu ychwanegol a sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar anghenion unigol. Mae'n rhoi lle canolog i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr a'u rhieni yn y broses wrth nodi anghenion unigol a phenderfynu ar ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i ddiwallu'r anghenion hynny. Mae hefyd yn cryfhau'r cyfrifoldeb cyfreithiol ar fyrddau iechyd lleol i ddiwallu anghenion clinigol y plentyn. Bwriad hyn yw sicrhau bod anghenion plant, fel y rhai sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, yn cael eu nodi’n gynnar a bod ymyriadau effeithiol yn cael eu rhoi ar waith.

 

Er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau'r gweithlu addysg i weithredu'r system ADY newydd, rydym wedi datblygu cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer pob athro i hyrwyddo ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a dysgu gwahaniaethol, gyda’r nod o gau bylchau dysgu ac ymateb i anghenion dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADYau) i ddarparu arweinyddiaeth strategol a gweithredu fel cyswllt cyntaf i athrawon sy'n chwilio am gyngor ac arweiniad proffesiynol. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector i ddatblygu modiwlau dysgu ar-lein i helpu athrawon ac ysgolion i ddatblygu eu dealltwriaeth o wahanol fathau o ADY, gan gynnwys anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a sut i gefnogi dysgwyr yn effeithiol. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r rhain ar Hwb yn ystod y misoedd nesaf.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £35m o gyllid craidd hyd yma yn y gwaith o baratoi'r seilwaith ar gyfer diwygio’r system ADY a chynyddu'r ddarpariaeth ADY.

 

Yn ogystal, byddwn yn comisiynu ymchwil i waharddiadau ym mis Ionawr 2022, gyda'r nod o ddeall y gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion, dysgwyr a'u partneriaid er mwyn osgoi gwahardd dysgwyr o'r ysgol.

 

Rydym hefyd yn gwybod bod mwy o blant a phobl ifanc o fewn y system cyfiawnder troseddol yn profi problemau emosiynol a meddyliol. Ym Mawrth 2021, cyhoeddwyd canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol, gyda'r bwriad o gefnogi lles dysgwyr.  Mae’r canllawiau yn cydnabod y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar rai dysgwyr ar wahanol adegau, ac ymyriadau cynnar mwy penodol, er mwyn atal profiadau negyddol. Dylai uwch-dimau arwain ysgolion ystyried eu poblogaeth ddysgwyr a rhieni/gofalwyr wrth ddatblygu eu strategaethau lles fel rhan o’r broses ehangach i wella’r ysgol, er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion unrhyw ddysgwyr sy’n perthyn i un neu ragor o grwpiau mwy agored i niwed neu sydd wedi cael eu hymyleiddio’n hanesyddol. Bydd hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc o fewn y system cyfiawnder ieuenctid.

 

Mae’r canllawiau yn mynd ymlaen i nodi, wrth ystyried anghenion y dysgwyr hyn, y bydd angen i ysgolion a darparwyr gwasanaethau (fel timau troseddwyr ifanc, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau arbenigol a gwasanaethau plant awdurdodau lleol) ddatblygu partneriaethau gwaith cadarnhaol â'r ysgol er mwyn cefnogi'r plant hyn sy’n agored i niwed yn effeithiol, a'u helpu i fod yn fwy gwydn; ystyried amgylchiadau’r dysgwyr hyn; a rhoi lle i hyblygrwydd ac empathi wrth ymateb i’w hanghenion.  Cefnogir hyn ymhellach gan Fframwaith NYTH/NEST, sy'n cyd-fynd â’n canllawiau i ysgolion. Datblygwyd NYTH/NEST gan y GIG yng Nghymru, sef adnodd cynllunio ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a'i nod yw sicrhau dull ‘system gyfan’ o ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl, lles a chymorth ar gyfer babanod, plant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a'u teuluoedd ehangach ledled Cymru.   

 

I gefnogi ein gwaith lles gydag ysgolion, rydym wedi sicrhau bod £12.2m ar gael yn ystod y flwyddyn bresennol, a defnyddir cyllid i ymestyn a gwella gwasanaethau cwnsela ysgolion a chymunedol; a sefydlu darpariaeth CAMHS o fewn ysgolion (lle mae ymarferwyr iechyd meddwl penodol mewn ysgolion yn darparu gwasanaeth ymgynghori, cydgysylltu, cynghori a hyfforddi) ar draws Cymru gyfan.

 

Gobeithio y bydd yr wybodaeth hon o gymorth ichi,

 

Yn gywir

 

Graphical user interface, application, Word  Description automatically generated

 

 

Jeremy Miles AS

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg